Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2019
Amser:
09.35 -
10.10
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Helen Mary Jones AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Owain Roberts (Ysgrifenyddiaeth) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew RT Davies AC.
2.1 Nodwyd y Papur a chytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y mater fel rhan o'r adolygiad o'r Cod Ymddygiad.
3.1 Bu'r aelodau'n trafod a chytunwyd ar y cynigion ar gyfer yr adolygiad gan nodi y bydd papur cynhwysfawr yn cael ei baratoi i'w ystyried ganddynt yn y cyfarfod nesaf.
4.1 Nododd yr aelodau’r cynnydd a wnaed yn y maes gwaith hwn a bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yn nhymor y gwanwyn 2020.
4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Comisiynydd Safonau Dros Dro yn gofyn am ei farn ar effaith y newidiadau arfaethedig sy'n ofynnol i ddod â chofrestriad deuol i ben.